Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 3
Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
(60 munud)
Dogfennau
Ategol
Bil Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Memorandwm
Esboniadol
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
(60 munud)
NDM7814 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl’ a gasglodd 5,682 o lofnodion.
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adferiad gwyrdd
(60 munud)
NDM7815 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.
3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
4. Er mwyn helpu i adfer yn wyrdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU a nodi cynllun i ddarparu miloedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi wyrddach;
b) cyflwyno addewidion allweddol ar frys fel Bil aer glân, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, a chynllun dychwelyd ernes;
c) creu swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd i Gymru, a fydd yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd;
d) darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth; a
e) diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol a'r rheolau cynllunio i bennu targedau a cherrig milltir hirdymor ar gyfer adfer natur yn ogystal â mandadu enillion net bioamrywiaeth ar ddatblygiadau newydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Lelsey Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;
b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd;
c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;
c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;
d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
Deddf y Diwydiant Glo 1994 (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:
datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain lleoliad datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif;
manteisio i'r eithaf ar botensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a datblygu economaidd drwy geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â datganoli pwerau ynni yn llawn;
buddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur, i leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cryfderau Cymreig sy'n dod i'r amlwg fel hydrogen ac ynni morol;
cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau Cymru ar frys, gyda'r nod craidd o wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030 a gweld adferiad sylweddol mewn bioamrywiaeth erbyn 2050;
buddsoddi'n sylweddol mewn atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd a dirywiad mewn bioamrywiaeth, mewn amgylcheddau daearol a morol.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7812 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2021